Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:          Mae'r canllaw Statutory Instrument Practice (5ed argraffiad) yn darparu bod y darpariaethau galluogi yn cynnwys “all of those that make clear: what may, or must, be done; by what means something is to be done; and who is empowered to do it.” Mae adran 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn nodi mai ystyr “prescribed” yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (ac mae’r swyddogaeth wedi cael ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru).  Gellid bod wedi cynnwys yr wybodaeth hon mewn troednodyn, ond nid yw'r hyn a wneir yn effeithio ar ddilysrwydd nac effeithiolrwydd yr offeryn statudol.